Creu eich cofnod ar y Gofrestr
Manteision ymuno â’r Gofrestr Rhanddeiliaid
Rydym yn dymuno ymgysylltu â chi ynghylch polisïau a gwasanaethau sydd o bwys i chi. Drwy gofrestru, gallwch ddweud yn union wrthym beth sydd o ddiddordeb i chi.
Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth a rowch i ni yn gwbl gyfrinachol, ac ni fyddwn yn ei rhannu ag unrhyw drydydd parti.
Dim ond unwaith y mae’n rhaid i chi greu eich cofnod. Byddwn hyd yn oed yn anfon negeseuon atgoffa atoch i wneud yn siŵr bod eich manylion yn dal i fod yn gyfredol
Gall y Cyfeiriadur eich helpu chi i ddod o hyd i fanylion cyswllt sefydliadau ac adrannau yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Gall unrhyw un gofrestru. Efallai eich bod yn fusnes sydd â diddordeb mewn cefnogaeth Llywodraeth Cymru? Neu’n bysgotwr sydd â diddordeb mewn polisïau pysgodfeydd?
Ni ddylai creu cyfrif gymryd mwy na 10 munud.